|
1,2,3,4; 1,3,4,5.
Pa'm carai'r byd
na'i wagedd mwy?
Hyd angeu'n brin y deuant hwy;
Gwell genyf garu'r
ffrynd a ddaw,
Yn angeu i 'maflyd yn fy llaw.
Pan byddwy'n myn'd o'r byd i maes,
Yn siglo llaw âg angeu glas;
Pryd hyn pwy help fy enaid gwan,
I ddringo o'r anial fyd i'r lan?
O'r dywyll wlad pan byddwy'n myn'd,
Fy Iesu fydd fy ffyddlon ffrynd,
Pa frawd, pa chwaer,
pa gyfaill gwell,
Ddaw'm hebrwng i'r ardaloedd pell.
O cofia fi pan b'wy'n y bedd,
A chasgla'm llwch i'r lan mewn hedd;
O arddel fi'n y farn a ddaw,
A gosod fi ar dy ddeheulaw.
Ffarwell deganau gwag y byd,
A'r holl ofidiau
sy ynddo i gyd;
Tu ag adre'r âf
er dw'r a thân,
Mae swn fy mrodyr
o fy mlaen.
William Williams 1717-91
priodolwyd hefyd i John Dafydd 1727-1783
Tonau[MH 8888]: gwelir: Beth dâl im' roi fy serch a'm bryd Nid oes un gwrthddrych yn y byd Pwy wrendy riddfan f'enaid gwan? Ymdeithydd wyf fi 'nawr o hyd |
Why shall I love the world
or its emptiness any more?
As far as death they will scarcely come;
Better for me to love the
friend who will come,
In death to to hold of me by the hand.
When I am going out from this world,
Shaking hands with utter death;
Then who will help my weak soul,
To climb up from the desert world?
From the dark land when I am going,
My Jesus, be my faithful friend!
What brother, what sister,
what better companion,
Will escort me to the distant regions?
O remember me when I am in the grave,
And gather my dust up in peace;
O own me in the coming judgment,
And set me at thy right hand!
Farewell empty trinkets of the world,
And all the griefs
which are in it altogether;
Towards home I go
despite water and fire,
There is the sound of my brothers
ahead of me.
tr. 2016,17 Richard B Gillion |
|